CELG(4) WPL 16

Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

Ymchwiliad i Uwch Gynghrair Cymru

Ymateb gan Russell Todd

Annwyl Clerc y Pwyllgor, Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol,

 

Rydw i’n ddiolchagr iawn am gyfle i gynnig fy mharnau ar yr Uwch Gynghrair Cymru (UGC) ynglyn â’r Ymchwiliad iddi.

 

Teimlaf y dylwn i addef fy mod i ddim wedi mynychu gêm yn y Gynghrair ers i mi astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth  yn y nawdegau hwyr. Ond hoffwn i weld y Gynghrair yn gwella, datblygu a sialens am sylw cefnoggwyr pêl droed yng Nghymru.

 

Pan oeddwn i’n astudio yn Aberystwyth, roedd teimlad gan llawer o ddynion ifainc bod y Gynghrair yn tipyn o ‘novelty’. Ymhlith myfyrwyr o Loegr (a llawer o Gymry hefyd) roedd yn ffasiynol i wawdio’r Gynghrair: roedd y safon yn isel iawn; doedd y chwaraewyr ddim yn ddigon ffit; roedd y cyfleusterau yn wael; ac roedd y caeau yn fwy addas i dyfu bresychen arni yn hytrach na chwarae pêl droed. Byddai llawer o bobl yn meddwl amdani fel ‘non-league’. ‘Non-English-league’ oedd hi yn sicr, ond mae ystyr ddyfnach gan y label yma, sef rhwybeth amateraidd, o safon isel, amherthnasol i unrhywun gyda diddordeb â phêl-droed ‘go iawn’.

 

Fodd bynnag, mae’r Gynghrair wedi gwella mewn llygaid llawer o Gymry dwi’n credu ers hynny. Mae statws genedlaethol gyda hi. Felly, er does neb yn credu ei bod hi mor gryf â’r Gynghrair Pêl Droed Lloegr, mae lot o Gymry yn gwerthfawrogi ei bod ar wahân iddi nid o’i danddi. Mae proffil y Gynghrair wedi gwella ac dylai BBC Cymru a S4C (yn arbennig) yn derbyn llawer o ganmol am hyn. Lle mae’n stryglo, dwi’n credu, ydy perthnasoliaeth. Sef, mewn llygaid y Cymry sy’n dilyn pêl-dreod - ac fel arfer yn dilyn Dinasoedd Abertawe neu Chaerdydd, Wrecsam a’r clybiau eraill mewn pyramid Lloegr (yr ‘Exiles’), neu’r hyn sy’n cefnogi clybiau Saesnig yn unig – does dim cysylltiadau rhwng eu clybiau a chlybiau y UGC:

·         dyw eu clybiau ddim yn chwarae yn erbyn clybiau UGC mewn gemau cystadleuol (ar wahân i’r cyn-Gwpan Premier, pan fyddai’r clybiau ddi-UGC yn gwanhau’u timoedd eu hunain, a gemau cyffeillgar)

·         dyw eu clybiau ddim wedi prynu sawl o chwaraewyr oddi wrth glybiau UGC (ar wahân i Mark Delaney, Lee Trundle, Owain Tudur Jones)

·         bu cryn nifer o chwaraewyr yn cyrraedd y Gynghrair Pêl Droed yn Lloegr ond fu nemor ohonynt ddim yn cyrraedd lefel y Championship neu Premier League lle mae proffil a statws mor enfawr gan y chwarewyr hynny

·         dyw’r UGC ddim yn berthnasol i’r dîm genedlaethol – does neb wedi cynrychioli Gymru tra eu bod yn chwarae dros glwb UGC (ac eithrio Mark Delaney, Owain Tudur Jones a Steve Evans)

Mae’r FAW wedi ceisio hwyluso dychweliad yr Exiles at Gwpan Cymru a thrwy’r Cwpan Premier yn gynt ond does dim archwaeth yr Exiles am hyn. Felly bydd rhaid i’r UGC orfod yr Exiles i’w sylwi trwy ddatblygu chwaraewyr a’u gwerthu ymlaen atynt. Dyma beth mae clybiau mewn sawl o gynghreiriau Ewropeiaidd yn gwneud (er enghraifft Yr Iseldiroedd, y Ffindir, Norwy, Iwerddon). Yn nhyddiau cynnar y UGC byddai gormod o chwaraewyr o Loegr yn gorffen eu gyrfaoedd yna neu ddod drosodd am arian hawdd (yn wir, beirniadaeth ‘poblogaidd’ am UGC y mai’n llawn o ‘Scousers’ hyd yn oed nawr). Dylai’r UGC fuddsoddi mewn hyfforddwyr, llwybrau iddynt i weithio gyda’r rhain sy’n hyfforddi ar lefel elite, a chyfleusterau. Bydd safon o chwaraewr yn cynyddu ac mae’r buddsoddiad yn ennill elw os ydynt mynd ymlaen at y Gynghrair Pêl-Droed. Dylai’r FAW a UGC yn asesu modelau y Cyfandir a nid dilyn y model Lloegr nad yw ddim yn hyrwyddo cynaladwyaeth mewn datblygiad ieuenctid.

 

Bydd safon y UGC yn parhau gwella ar ôl y newidiadau diweddar i’w ffurf. Mae mwy o gystadleuaeth gan mwy o gemau tuag at ddiwedd y tymor o achos mae na elwau i ran mwyafrif o dimoedd o achos bod y gynghrair yn torri mewn dau. Newyddbeth da yw hyn. Os oes mwy o bwysicrwydd gan rhai o gemau, fydd mwy o ddiddordeb â darlledwyr a golygwyr? Efallai...yn y pendraw. Gobeithio ni fydd gweinyddwyr y UGC teimlo y dylent ‘tinker’ gyda’r ffurf yma.

 

Mae dioddefaint dros y dîm genedlaethol gyda fi. Rydw i’n colli gemau cartrefol yn anaml a wedi dilyn y dîm tramor hefyd. Ond dwi wedi gweld dim byd ynglyn â’r UGC yn y gemau ac eithrio ychydig o erthyglau amdani yn rhaglen y gêm. Ble mae’r pobl i hyrwyddo’r UGC a’u gemau i ddod? Ble mae’r cynhigion tocyn i blant? Ble mae hysbysebau a dyrchafiadau? Mae rhaid i’r UGC werthu ei hun pan mae siawns i wneud hyn i sawl o bobl gyda diddordeb a dioddefaint dros bêl droed Cymreig. Mae roadshows y FAW wedi ymweld â chlybiau y UGC (sef Airbus UK) a chlybiau o’i danddi (sef Ton Pentre); dwi’n adnabod pobl sydd wedi ymweld â chlwb y UGC am y tro cyntaf trwy’r roadshow.

 

Un peth sy’n cadw yn ôl y UGC yw’r llai o broffil yn y Cymoedd, Casnewydd, Caerdydd ac Abertawe lle mae cymaint o Gymry yn byw. Does dim byd i daclo hyn yn y tymor byr. Mewn gwirionedd mae clybiau o Gaerdydd a’r Cymoedd sydd wedi cystadlu yn y UGC wedi profi anhwasterau ariannol (Grange Quins, Inter Cardiff, Glyn Ebwy, Cwmbrân) ac mae hyn yn bwrw cysgod dros glybiau yn yr ardaloedd hyn. Er enghraifft mae sawl o dimoedd heb ddidordeb mewn ymuno â’r UGC os buasent ennill y Gynghrair Cymru. Profodd CPD Glyn Ebwy problemau ariannol enfawr o achos ei bod yn llwyddiannus yn y UGC a gyrhaeddodd ar lwyfan Ewropeiaidd. Ble fu’r ysgogiad i dimoedd i lwyddo os yw problemau megis hyn yn dilyn.

 

Rydw i’n croesawu’r ymchwiliad yma ond byddai becso gyda fi os yw’r Cynulliad neu’r Llywodraeth yn ceisio pwyso newidiaeth ar fusnes FAW er mwyn i sanctions oddi wrth FIFA yn dod.

 

Russell Todd